Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar
07/02/2018 i'w hateb ar 14/02/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Angela Burns Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi amlinelliad o'r pwerau gorfodi a ddirprwywyd o Lywodraeth Cymru i Gyfoeth Naturiol Cymru?
David J. Rowlands Dwyrain De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu symleiddio'r gyfraith gynllunio yng Nghymru i'w gwneud yn haws i'w deall?
Mark Reckless Dwyrain De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefel y cydweithrediad rhwng awdurdodau lleol ym maes datblygu lleol a chynllunio?
David Melding Canol De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr effaith y mae mesuryddion deallus yn ei chael ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru?
Jane Hutt Bro Morgannwg
A wnaiff Llywodraeth Cymru gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol yn dilyn y penderfyniad gan Gyfoeth Naturiol Cymru i roi trwydded weithredu ar gyfer y datblygiad Biomass UK No. 2 yn y Barri?
Joyce Watson Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r adroddiad, The State of Britain's Hedgehogs Report 2018?
Mandy Jones Gogledd Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y sector bwyd-amaeth yng Ngogledd Cymru?
Mark Isherwood Gogledd Cymru
Pa gyfleoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael i ymchwilio i welyau môr oddi ar arfordir Cymru?
Vikki Howells Cwm Cynon
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad cymunedol at fannau gwyrdd?
Hefin David Caerffili
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Bolisi Cynllunio Cymru?
Darren Millar Gorllewin Clwyd
Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cydweithrediad trawsffiniol ar gynllunio rhwng awdurdodau lleol?
Russell George Sir Drefaldwyn
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau gwella hawliau tramwy?
Sian Gwenllian Arfon
Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am argymhellion Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer is-ddeddfau newydd rheoli dal pysgod sydd wedi eu cyflwyno i'w cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Russell George Sir Drefaldwyn
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol swyddfeydd Llywodraeth Cymru sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gaerdydd?
Dawn Bowden Merthyr Tudful a Rhymni
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau rhynglywodraethol diweddar am berthynas Cymru gyda'r UE yn y dyfodol?
Rhun ap Iorwerth Ynys Môn
Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y broses o ddatblygu isadeiledd trydan yn Ynys Môn?
Jane Hutt Bro Morgannwg
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro telerau ac amodau cronfa pontio'r UE o £50 miliwn?
`Joyce Watson Canolbarth a Gorllewin Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r dreth gwarediadau tirlenwi?
Jenny Rathbone Canol Caerdydd
Faint o gyllid ychwanegol sydd ei angen i dalu am ffordd liniaru'r M4?
Angela Burns Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd bargen ddinesig Bae Abertawe?
Janet Finch-Saunders Aberconwy
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwerau benthyca newydd Llywodraeth Cymru?
David Rees Aberafan
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol bargen ddinesig Bae Abertawe?
Hefin David Caerffili
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflwyno treth trafodiadau tir yng Nghymru?
Llyr Gruffydd Gogledd Cymru
Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU parthed effaith y gronfa ffyniant a rennir arfaethedig ar Ogledd Cymru?
Dai Lloyd Gorllewin De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygiadau mewn perthynas â bargen ddinesig Bae Abertawe?
Janet Finch-Saunders Aberconwy
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y fformiwla ar gyfer cyfrifo ardrethi busnes?
David Melding Canol De Cymru
Pa ddarpariaeth ariannol ychwanegol a wnaed i'r portffolio ynni, cynllunio a materion gwledig i gefnogi parciau cenedlaethol yng Nghymru?
Jane Hutt Bro Morgannwg
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno achrediad cyflog byw go iawn i gyflogwyr o ganlyniad i'r cod ymarfer ar gaffael moesegol?